top of page
flannel EDITED.jpg

Clytwaith o samplau siwtiau (c1910)

Ref: 2000-1-A

2000-1-A suiting samples quilt
2000-1-A suiting samples quilt

Gwnaed y cwilt bob dydd hwn gan Mrs Gethin o Gwm Belan ger Llanidloes, rhwng 1900 a 1920. Fe ddefnyddiodd samplau siwtiau, efallai o lyfr samplau, a oedd yn arfer cyffredin wrth wneud cwiltiau bob dydd i’w defnyddio o amgylch y cartref neu ar gyfer gweision fferm a gweithwyr eraill.

Mae’r ffabrigau gwlân mewn lliwiau porffor, du, llwydfelyn, llwyd a lliwiau trymaidd eraill, ond maen nhw mewn cyflwr da yn y darn hwn. Byddai llawer o gwiltiau eraill o’r fath wedi’u treulio nes bydden nhw’n cwympo’n ddarnau, yn llythrennol. Roedd yn beth cyffredin gwneud y ffabrigau siwtiau a ddefnyddiwyd yma ym melinau Canolbarth Cymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r darn, er ei fod yn syml, wedi’i drefnu’n forderi o amgylch y medaliwn yn y canol. Mae’r darnau wedi’u rhoi at ei gilydd â pheiriant ac mae’r ffos wedi’i chwiltio â pheiriant.

Rhoddir sylw i’r cwilt yn y llyfr Making Welsh Quilts, ganClare Claridge a Mary Jenkins, (David & Charles, 2005) lle cyfeirir ato fel y “Hired Hand Quilt”.

Gorchudd gwely wal frics o wlanen (c1890)

Ref: 2001-6

2001-6 flannel brickwall bedcover
2001-6 flannel brickwall bedcover

Mrs Jones o Dyn Hendre, Llanidloes a wnaeth y gorchudd gwely gwlanen hwn tua 1890 i Jane Beedle, ei merch. Bu farw Jane ym mis Tachwedd 1942 a’i chladdu ym mynwent Capel Cefn, Glynbrochan, Llanidloes.

Mae’r gorchudd gwely hwn mewn arddull wal frics ac yn mesur 2055 x 2005mm. Fe’i gwnaed o wlanen gwlân Cymreig mewn gwehyddiad plaen a brethyn caerog. Roedd samplau brethynnau siwtiau a’r gwlanenni coch, gwyrdd a du’n cael eu gweithgynhyrchu yn yr ardal yn y cyfnod hwnnw. Mae yna batrymau cefn pennog, patrymau sgwarog a streipiau. Ar y cefn mae pedwar darn o ffabrig cymysgedd cotwm a gwlân mewn lliw marŵn. Mae wedi’i gwiltio â llaw mewn edau cotwm du.

Cwilt tei bô (c1880)

Ref: 2002-17

2002-17 bowtie quilt
2002-17 bowtie quilt

Prynwyd y Cwilt Tei Bô ar gyfer y casgliad yn 2001. Mae’n enghraifft nodweddiadol o glytwaith trawiadol mewn ffabrigau gwlanen a gynhyrchwyd yng Nghanolbarth Cymru rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif.

Mae’r cwilt yn mesur 2278 wrth 2185mm. Cafodd ei wneud yn ardal Llangurig yng Nghanolbarth Powys, nid nepell o Lanidloes, tua 1880. Mae gwlanen Gymreig a gynhyrchwyd yn lleol, â gwead plaen a thwil, a ffabrigau cotwm wedi’u defnyddio mewn darnau trionglog i greu effaith tei bô ar draws y rhan fwyaf o’r cwilt. Mae’r wlanen goch wedi’i phannu’n drylwyr. Mae gan y cwilt ymyl o “wyddau hedegog” sy’n defnyddio’r un ffabrigau. Mae’r darn cyfan wedi’i gwiltio â llaw mewn edau du. Cnu brown tywyll yw’r wadin. Mae’r rhwymiad rhuban wedi’i bwytho â pheiriant ac mae’n bosibl iddo gael ei ychwanegu’n ddiweddarach.

Mae’r cwilt mewn cyflwr da iawn, ac mae wedi’i arddangos sawl tro yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva, gan gynnwys sioeau haf 1995 a 2005. Mae hefyd wedi cael sylw mewn sawl llyfr, gan gynnwys Making Welsh Quilts gan Mary Jenkins a Clare Claridge.

Cwilt milwrol

Ref: 2003-3

2003-3 military quilt
2003-3 military quilt

Daeth y clytwaith mosäig hwn (2385 x 1725 mm), â darnau o ffabrigau ffurfwisg y fyddin, oddi wrth y teulu Thomas yn ne Cymru. Y nain Elvira Thomas (Jenkins gynt) oedd yn berchen arno’n wreiddiol. Y gred yw mai cyfnither o ardal Talgarth ym Mhowys, lle roedd yna gartref ymadfer ar gyfer milwyr clwyfadwy, a wnaeth y cwilt.

Mae’r clytiau bychain iawn yn y darn hwn wedi’u gwneud o ffabrigau ffurfwisg – gwlân gwehyddiad plaen wedi’i bannu’n drwm – mewn du, coch, melyn a gwyn. Mae yna sgwariau, hecsagonau, trionglau, diemwntau a chalonnau. Mae’r mannau ar y cefn sydd wedi pylu'n dangos lle roedd bathodynnau wedi'u tynnu. Mae yna fedaliwn yn y canol, gyda dau forder. Mae’r darnau wedi’u pwytho â llaw yn ofalus gydag edau gotwm hufen, gan ddefnyddio pwythau rhedeg ac ôl-bwythau.

Mae yna rwymiad o frethyn caerog cotwm coch, sef tâp yn ôl pob tebyg, ond nid oes defnydd ar y cefn.

Cwilt pais

Ref: 2005-2

2005-2 Petticoat quilt
2005-2 Petticoat quilt

Cwilt clytwaith wedi’i wneud o wlanenni pais yw hwn, o dde Cymru yn ôl pob tebyg. Daeth rhywun o hyd iddo mewn siop elusen yn Llanidloes, a’i achub ar gyfer y casgliad.

Mae yna lawer o liwiau yn y ffabrigau gwlanenni pais, mewn streipiau a phatrymau sgwarog. Mae’r lliwiau’n dal i fod yn llachar iawn, heb fawr o bylu o gwbl, sy’n awgrymu mai prin y defnyddiwyd y cwilt unwaith roedd wedi’i wneud. Mae darnau’r clytwaith yn cynnwys medaliwn yn y canol a borderi. Mae wedi’i gwiltio â pheiriant mewn llinellau lletraws ar draws y cwilt, ac mae defnydd y tu blaen wedi'i blygu i'r cefn i orffen yr ymylon. Clytwaith mewn brethyn gwlanen yw cefn y darn.

Mae’r cwilt syml ond trawiadol hwn wedi’i arddangos yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva, a hefyd yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, Ynys Môn.

Cwilt gwlanen croes las (c1890s)

Ref: 2006-2

2006-2 blue cross wool flannel quilt
2006-2 blue cross wool flannel quilt

Elizabeth Ashton (1873 - 1930) o Dŷ Capel, Llawryglyn ger Llanidloes a wnaeth y cwilt gwlanen trawiadol hwn rhwng 1890 a 1900. Mae’n mesur 2105 x 2020mm ac o ddyluniad croesau clytwaith a wnaed o ffabrigau gwlân; mae rhai ohonyn nhw wedi’u pannu. Gwehyddiad plaen sydd i rai ffabrigau, ond mae eraill yn frethynnau caerog. Cwiltio syml â llaw sy’n dal y cwilt â’i gilydd, ac mae iddo rwymiad gwlanen goch mewn gwehyddiad plaen.

Mae’r cwilt wedi’i arddangos sawl tro yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva, gan gynnwys sioe haf 2001, a hefyd yn yr Ŵyl Gwiltiau yn yr NEC yn Birmingham yn 2009.

Cwilt Croes Goch De Cymru

Ref: 2007-5

2007-5 South Wales Red Cross quilt
2007-5 South Wales Red Cross quilt

Cwilt Croes Goch Canada yw hwn, a daeth i Drelái yn Ne Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n un o filoedd a ddosbarthwyd yn y DU gan y Groes Goch i helpu teuluoedd a ddaeth yn ddigartref yn sgil y rhyfela. Yn anffodus, dim ond rhai sydd wedi goroesi, ond mae’r rheiny sydd ar ôl yn cynnwys samplau gwych o decstilau o flynyddoedd y rhyfel. Mae gan y Gymdeithas Gwiltiau gwilt arall gwahanol iawn y Groes Goch yn ei chasgliad, a gallwch chi weld hwn yma

Byddai menywod yn Canada’n defnyddio ffabrigau bob dydd a thechnegau sylfaenol i wneud y cwiltiau’n gyflym ac yn syml, gan ddefnyddio ystafelloedd gwnïo’u canghennau Croes Goch ledled Canada. Y Gweithdy Safonedig oedd yn gyfrifol am gydlynu’r ymdrech – mae label adnabyddus Croes Goch Canada i’w weld ar rai o’r cwiltiau, fel hwn, wedi’i bwytho i’r cefn.

Cwilt nodweddiadol wedi’i wneud o samplau siwtiau yw hwn, ac mae’r darnau wedi’u pwytho â pheiriant gan ddefnyddio samplau ffabrigau teilwriaid ar arddull wal frics. Mae’r ffabrigau’n cynnwys cotwm a gwlanen, rhai ar gyfer siwtiau ac eraill ar gyfer crysau, mewn lliwiau tywyll glas, gwyrdd, brown a du, gyda rhai patrymau sgwarog. Cotwm heb ei nyddu yw’r wadin. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw ag edau lwyd dywyll mewn patrwm ceblau mawr, ac mae’r rhwymiad wedi’i ddwyn o’r cefn.

Cwilt gwlanen

Ref: 2007-6-A

2007-6-A flannel quilt
2007-6-A flannel quilt

Hen ferch, sef Megan Jones, a fu’n byw yn Lôn yr Eglwys, Llanidloes tan fu farw, oedd yn berchen ar y cwilt gwlanen hwn (2206 x 1709mm). Roedd Megan yn gweithio yn y ffatri ledr leol. Roedd ei thad yn gweithio yn un o’r melinau gwlanen lleol. Doed o hyd i’r cwilt pan oedd y tŷ’n cael ei glirio – roedd Megan wedi parhau i fyw yn nhŷ ei mam a’i thad gan na fu’n briod erioed.

Gwnaed y gwlanen yn y cwilt yn lleol yn un o felinau gwlanen Llanidloes (roedd yna 8 melin wlanen yn y dref). Gwnaed y wlanen hon ar gyfer crysau ac fe’i hanfonwyd i dde Cymru i wneud crysau glowyr. Mae yna liwiau llwydfelyn a gwyn â streipiau brown, gwyrdd, llwyd, porffor golau a glas. Mae darnau’r cwilt wedi’u pwytho â pheiriant mewn arddull syml, â medaliwn yn y canol a borderi. Mae wedi’i rwymo â stribyn o ddefnydd crysau cotwm ar yr ochrau, ac mae’r cefn wedi’i plygu drosodd i’r tu blaen ar y top a’r gwaelod. Mae’r cefn wedi’i wneud o ddefnydd crysau cotwm mewn lliwiau pastel pinc, glas, porffor gorau, llwyd, gwyn a llwydfelyn.

Caffaelwyd cwilt cot gwlanen (2007-6-B), mewn ffabrigau gwlanen tebyg, ar gyfer y casgliad ar yr un pryd, hefyd o dŷ Megan Jones.

Cwrlid wal frics (c1920s)

Ref: 2008-1

2008-1 brickwall coverlet
2008-1 brickwall coverlet

Daeth y cwrlid hwn i’r casgliad o Stroud. Cafodd ei wneud ar gyfer teulu gwas ffarm yr oedd ganddo 13 o blant.  Y gred oedd iddo gael ei lunio yn yr 1920au neu’r 30au, rhwng y ddau ryfel byd, ac mae’n dangos y defnydd creadigol o samplau ffabrigau teilwriaid. Byddai cwsmeriaid a oedd eisiau archebu siwt neu gôt newydd wedi pori trwy’r llyfrau samplau, yn dewis o ffabrigau siwtiau gwlân mewn brethynnau caerog tywyll a phatrymau cefn pennog mewn gwahanol arlliwiau gwyrdd, brown, llwyd, glas, melynllwyd a phorffor. Unwaith roedd y llyfrau hyn wedi’u bwrw heibio, roedden nhw’n hynod ddefnyddiol i unrhyw un a oedd eisiau gwneud gorchudd gwely rhad ond clud.

Mae’r enghraifft hon o glytwaith bob dydd o ffabrigau siwtiau yn fwy cymhleth ei ddyluniad a’i bwythau nag arfer. Mae’r medaliwn yn y canol yn cynnwys llawer o samplau hirsgwar bach â dyluniad wal frics. Mae dau forder o samplau hirsgwar mwy o amgylch hwn, yr un allanol ag ymyl sgolop. Mae pob darn wedi’i amlinellu mewn pwyth pennog melyn ac mae yna bwyth rhedeg melyn o amgylch yr ymyl sgolop. Nid oes unrhyw wadin.

Cotwm llwyd golau yw’r ffabrig ar gefn y cwrlid, gyda border o leinin llenni melynllwyd mewn satîn cotwm.

Clytwaith 2 o Samplau Siwtiau

Ref: 2000-1-B

2000-1-B suit samples cape reverse
2000-1-B suit samples cape detail

Gwnaed y cwilt hwn ger Llanidloes rhwng 1900 a 1920, a mab y gwneuthurwr wnaeth rodd ohono. Mae wedi’i wneud o samplau siwtiau gwlân ac wstid piws, du, llwydfelyn a llwyd gydag un clwt coch amlwg.   Mae’r darnau wedi’u pwytho â pheiriant ac mae’n edrych fel petai wedi’i gynllunio’n ofalus, gan ddefnyddio samplau a oedd ar gael ar y pryd.  Mae labeli i’w gweld ar gefn rhai o’r clytiau oherwydd bod llawer o dyllau pryfed ar y cefn, sydd wedi’i wneud o fantell ddu o dwil gwlân.  1410 x 1360mm.

Clytwaith 3 o Samplau Siwtiau

Ref: 2000-1-C

2000-1-C suit samples unfinished
2000-1-C suit samples detail

Gwnaed y cwilt hwn ger Llanidloes rhwng 1900 a 1920, a mab y gwneuthurwr wnaeth rodd ohono.  Mae wedi’i wneud o wlanen a samplau siwtiau piws, du, llwydfelyn a llwyd gydag un clwt coch amlwg ar yr ymyl.  Mae ganddo ddyluniad clytwaith wedi’i bwytho â pheiriant mewn gwyn ar y samplau llai ac mewn du ar y rhai mwy.  Nid yw wedi’i orffen ac mae’n mesur 1350 x 1300-1260mm.

Clytwaith 4 o Samplau Siwtiau

Ref: 2000-1-D

2000-1-D suit samples medallion
2000-1-D suit samples medallion detail

Gwnaed y cwilt hwn ger Llanidloes rhwng 1900 a 1920, a mab y gwneuthurwr wnaeth rodd ohono.  Mae wedi’i wneud o samplau siwtiau piws, du, llwydfelyn a llwyd.  Mae ganddo fedaliwn yn y canol ac mae’r darnau wedi’u pwytho â pheiriant mewn edau lin ddu arw.  Mae’r cefn a’r rhwymiad wedi’u tynnu i ffwrdd.  2488 x 2058mm.

Cwilt y Bugail

Ref: 2014-6

2014-6 shepherds quilt
2014-6 shepherds quilt detail

Mae’r cwilt clytwaith bob dydd hwn yn cynnwys llawer o ddarnau o wlanen a brethyn, rhai o bosibl wedi’u gwneud yn lleol gan fod y cwilt wedi dod o fferm mewn pentref ger Llanidloes.  Credir iddo gael ei ddefnyddio gan un o fugeiliaid y fferm ac mae’n enghraifft dda o ‘gwilt bugail gweithgar’ o ddiwedd y 19eg ganrif.  Mae’r ffabrigau’n cynnwys ffabrigau lifrai, brethyn, gwlanen bais Gymreig a siwtiau, rhai o bosibl yn samplau teiliwr.  Mae lliwiau’r ffabrigau’n cynnwys caci, coch, llwyd a glas. 

 

Mae yna fedaliwn yn y canol wedi’i ffurfio o hirsgwarau wedi’u pwytho â pheiriant, gyda naw border o’i amgylch sydd wedi’u pwytho â llaw. Mae sgwariau, hirsgwarau a thrionglau’n ffurfio’r borderi.  Nid ydyn nhw’n gymesur ac mae yna appliqué ar rai o’r clytiau coch.   Nid oes unrhyw wadin, a darn o wlanen glas/lwyd yw’r haen gefn.  Mae’r cwiltio â llaw wedi’i wneud mewn edau gotwm ddu ac mae’n syml iawn, gan ddefnyddio croesau, patrwm igam-ogam a llinellau cyfochrog.     2002 x 1908mm.

Cwrlid clytwaith bychan gwlân

Ref: 2017-4-A

2017-4-A flannel half coverlet
2017-4-A flannel half coverlet detail

Cwrlid Clytwaith yw hwn sy’n edrych fel petai wedi’i leihau o gwilt maint dwbl i wneud un sengl. Mae yna hanner sgwâr ar ei ochr o’r hyn a oedd yn wreiddiol yn fedaliwn yn y canol.

 

Mae wedi’i wneud o ffabrigau gwlanen llwyd a phorffor, llawer ohonyn nhw yn rhai streipiog, ac mae wedi’i bwytho mewn arddull medaliwn â wal frics ac yna borderi. Mae’r blociau wedi’u pwytho â llaw a’r borderi allanol â pheiriant.

Cwilt Benjamin Davies

Ref: 2017-6

2017-6 Benjamin Davies quilt
2017-6 Benjamin Davies quilt reversel

Ganwyd Benjamin Davies ym Mwlch-y-sarnau yn Sir Faesyfed ym 1905 a bu farw ym 1932 ac yntau dim ond 27 oed. Roedd wedi cael polio ac roedd yn defnyddio cadair olwyn. Gwnaed y cwilt hyfryd hwn yn yr 1920au a phasiwyd ef i lawr trwy genedlaethau o’r teulu ar ôl iddo farw, nes y gwnaed rhodd ohono i ni yn 2017.  Mae wedi’i wneud o ffabrigau gwlanen. Clytwaith o arlliwiau porffor, llwyd a gwyn yw’r ochr ar i fyny ac mae’r cefn wedi’i wneud o glytwaith o dorion gwlanen plaen, siec a streipiog. 

 

Mae’r wadin wedi’i wneud o haen denau o gnu gwlân sydd wedi troi yn ffelt dros amser. Mae gan y clytwaith ar yr ochr ar i fyny fedaliwn yn y canol o sgwariau bach ar eu hochr. Mae yna bedwar border arall o amgylch hwn, dau ohonyn nhw o sgwariau ar eu hochr bob yn ail â dau gyda sgwariau ym mhob cornel. Yna ceir border lletach gyda thrionglau hanner-sgwâr ac, yn olaf, borderi plaen ar bob ymyl.  Mae’r cwiltio’n cynnwys ffaniau, sieffrynau a cheblau. Hwn oedd cwilt cyntaf Benjamin Davies ond, er hynny, mae’r cwiltio’n llyfn iawn. 

1880mm x 1650mm.

Cwilt Blociau Plith Draphlith a Sêr

Ref: 2017-8

2017-8 tumbling blocks & stars
2017-8 tumbling blocks & stars detail

Menyw mewn oed o Surrey a anwyd yn Aberdâr, tref fach lofaol yng Nghwm Cynon yn Ne Cymru, a wnaeth rodd o’r cwilt hwn. Daeth y cwilt yn wreiddiol o gartref ei thaid a’i nain yn Aberdâr ac mae hi’n meddwl mai ei nain a’i modryb oedd wedi’i wneud.  Signalwr oedd ei thaid ar Reilffordd y Great Western a dechreuodd ei thad weithio fel clerc i’r un cwmni yn bedair ar ddeg mlwydd oed.

 

Gwnaed y cwilt hwn o amrywiaeth o ffabrigau gwlân – brethyn, bwcle, ffabrigau cotiau a siwtiau – mewn amrywiaeth o liwiau yn ogystal ag ambell ddarn o sidan sydd wedi pydru. Mae rhai yn ffabrigau o lyfrau patrymau mewn cyfuniadau lliwiau gwahanol.  Ffabrig twil gwlân marŵn yw’r cefn.   Mae’r ochr ar i fyny yn glytwaith o flociau plith draphlith a sêr wedi’i wneud o glytiau siâp paralelogram wedi’u pwytho â llaw.  Mae’r cwilt wedi’i gwiltio’n rhannol â llaw mewn edau botwm brown gyda phedwar rhwymyn o gwmpas yr ymylon mewn tâp brown.  Mae’r dyluniad cwiltio’n defnyddio hanner cylchoedd, cylchoedd consentrig, croeslinellu a llinellau ar hap ac mae’n bosibl nad yw wedi’i orffen neu ei fod wedi datod.        2135mm x 1810mm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu
Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

bottom of page