top of page

Mae’r Gymdeithas Gwiltiau’n gofalu am gasgliad o gwiltiau hynafol, llawer ohonyn nhw o ardal Llanidloes a Chanolbarth Cymru, yn aml gyda gwybodaeth ychwanegol yn cyd-fynd â nhw ynglŷn â’r gwneuthurwyr a’r lleoedd y cawson nhw eu gwneud. Mae mwyafrif yr eitemau yn y casgliad, sy’n cynnwys casys clustogau a gorchuddion bwrdd yn ogystal â chwiltiau gwely, wedi’u rhoi i’r Gymdeithas dros y blynyddoedd, er bod nifer ohonyn nhw wedi’u prynu. Mae Canolfan Celfyddydau Minerva wedi dod yn enwog am glytwaith, cwiltiau a chelfyddydau tecstilau eraill, gan fod y Gymdeithas Gwiltiau wedi sicrhau bod y casgliad ar gael i’w astudio. Yn y Ganolfan, mae yna gyfleusterau i gynnal gweithdai, darlithoedd a chyrsiau. Mae llawer o’r cwiltiau yn y casgliad wedi’u harddangos yn yr arddangosfeydd haf blynyddol a gynhelir yn y Ganolfan bob blwyddyn.

 

Sicrhawyd arian oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddogfennu’r eitemau yn y casgliad sydd bellach yn cynnwys mwy na 220 o eitemau. Cwblhaodd tîm o wirfoddolwyr y gwaith hwn yn 2008. Ers hynny, sicrhawyd grant bach yn 2009 ar gyfer prosiect y Ditectifs Cwiltiau lle dewisodd gwirfoddolwyr gwiltiau o’r casgliad i wneud ymchwil bellach iddyn nhw o ran eu hadeiladwaith, eu ffabrigau, eu steiliau a hanes cymdeithasol eu gwneuthurwyr.

Mae’r casgliad yn cynnwys clytweithiau a chwiltiau o ddechrau’r 19eg ganrif i’r 1970au. Dyma rai o’r themâu sydd i’w gweld dro ar ôl tro:

  • Cwiltiau clytwaith Cymreig traddodiadol wedi’u gwneud o wlanen Gymreig mewn lliwiau trawiadol cryf yn dyddio o rhwng y 1850au a 1900.

  • Cwiltiau clytwaith cotwm yn dyddio o rhwng y 1830au a’r 1970au, gan gynnwys patrymau hecsagon, caban pren, wal frics, ffrâm/medaliwn, stripiau, ar hap.

  • Cwiltiau brethyn cyfan Cymreig, llawer yn dyddio o’r 1930au pan adfywiodd y Swyddfa Diwydiannau Gwledig grefft cwiltio â llaw, yn enwedig yn Ne Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

bottom of page