top of page
knitted background.jpeg

Blociau plith draphlith (c1880)

Ref: 1999-4-A

1999-4-A Tumbling blocks
1999-4-A Tumbling blocks

Gwnaed rhodd o’r cwilt clytwaith blociau plith draphlith hwn gan gartref gofal preswyl yn Nhrefesgob pan fu farw ei berchennog, Emily Matthews, tua diwedd y 1990au. Bu Emily yn byw yn Woodbine Terrace, Church Lane, Trefesgob a symudodd i breswylio yn y cartref gofal ym 1989.

Mae’n mesur 2083 x 1990mm, ac mae wedi’i wneud o sidanau a felfedau. Mae yna amrywiaeth fawr iawn o sidanau, gan gynnwys ffigyrau a sidanau print, caerog, rhib a phlaen. Mae rhai o’r rhain wedi dirywio dros y blynyddoedd – mae’n debygol bod y darn yn dyddio o ryw 1880 – ond, o ystyried ei oedran, mae mewn cyflwr da.

Ffabrig gwlân du, sef blanced o bosibl, yw’r llenwad. Mae yna forder coch a du a ychwanegwyd yn ddiweddarach o bosibl. Mae’n sicr mai ychwanegiad diweddarach yw’r satîn cotwm coch ar y cefn – mae wedi’i bwytho â pheiriant ond nid yw’r pwythau’n dod trwodd i'r tu blaen.

Mae’r cwilt blociau plith draphlith wedi’i arddangos yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva yn ystod sioe haf, a hefyd yn Llwydlo, Sir Amwythig a Chaergybi, Ynys Môn.

Cwrlidau bwrdd pyffiau Suffolk (c1940)

Ref: 2004-1-B

2004-1-B suffolk puffs table coverlets
2004-1-B suffolk puffs table coverlets
2004-1-B suffolk puffs table coverlets

Pâr o gwrlidau bwrdd Pyffiau Suffolk yw’r rhain. Fe’u gwnaed yn Trottiscliffe (‘Trosley’ ar lafar), Caint, de-ddwyrain Lloegr, yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939 – 1945), mewn lloches rhag bomio yn ôl pob tebyg. Gwnaed rhodd o’r cwrlidau i’r Gymdeithas Gwiltiau yn 2004.

Cylchoedd o ffabrig wedi’u crychu yw Pyffiau Suffolk, neu io-ios i roi enw arall arnyn nhw. Roedden nhw’n boblogaidd iawn yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, ac maen nhw wedi’u henwi ar ôl y gwlân defaid Suffolk a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n aml i’w llenwi. Roedd y pyffiau’n ddelfrydol ar gyfer defnyddio darnau bach o ffabrig dros ben, neu ailgylchu hen ddillad, a gallai plant neu rai a oedd yn rhoi cynnig ar glytwaith am y tro cyntaf eu gwneud.

Mae’r cwrlid cyntaf yn mesur 715 x 715mm, a’r ail yn mesur 414 x 965mm. Mae diamedr y pyffiau’n 25mm, ac maen nhw wedi’u gwneud o ffabrigau cotwm a reion mewn lliwiau amrywiol. Mae’r patrymau wedi’u cynllunio i ryw raddau, gyda phyffiau plaen yn gwahanu’r blociau patrymog, bron fel fframiau. Mae’r pyffiau wedi’u gwnïo â’i gilydd â llaw ar bob un o’r pedair ymyl.

Cwilt y Groes Goch (c1940)

Ref: 2007-4-A

2007-4-A Red Cross quilt
2007-4-A Red Cross quilt

Cwilt Croes Goch Canada (cangen Petrolia) yw hwn, a roddwyd i deulu o Gaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Doris Evelyn Jones (3.6.1913 – 20.1.2007) yn byw yn Beckenham, Caint, a bomiwyd yr ardal sawl tro. Ymhen yr hir a’r hwyr, fe symudwyd Doris a’i baban Brian i Swydd Gaerefrog. Roedd Doris wedi priodi ei gŵr George Ernest Jones ar 20 Ionawr 1940. Roedd George yn y fyddin, ond ni fu’n gwasanaethu dramor. Fel arlunydd a drafftsmon, fe dreuliodd y rhyfel yn llunio mapiau. Roedd y gwaith yn hynod gyfrinachol. Bu farw yn 54 oed ym 1971.

Roedd Doris yn cysgu mewn lloches cyrch awyr gyda’i mab Brian pan gawson nhw eu bomio. Roedd yn rhaid cloddio’r teulu allan o’r lloches. Roedd eu tŷ wedi’i ddinistrio. Aeth Doris i ganolfan i gael bwyd a chymorth, a’r unig bethau a oedd ar ôl ganddyn nhw oedd “bloomin' quilts.” Yn ôl Doris, nid oedd hi eisiau cwilt; roedd hi eisiau rhywbeth i’w fwyta. Ond roedd y lleill i gyd yn mynd â nhw, felly fe gymerodd hi un hefyd. Rhoddodd rhywun rywle iddi aros, ac yna fe’i symudwyd i Halifax ar drên, yn gwisgo label.

Darn naw clwt yw’r cwilt (2105 x 1710mm), gyda 30 bloc wedi’u gwneud o ffabrigau cotwm amrywiol. Mae ganddo wadin cotwm, ac ychydig bach o gwiltio gydag edau wen o amgylch ac ar draws y blociau i'w ddal at ei gilydd. Lliain fflaneléd streipiog glas yw’r cefn, gyda label Croes Goch Canada yn y gornel isaf.

Clytwaith blociau coch a gwyn

Ref: 2011-2-A

2011-2-A red and white block patchwork
2011-2-A red and white block patchwork

Cwilt clytwaith blociau yw hwn, a wnaed gan Gymraes a oedd yn dychwelyd i’w mamwlad o America ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cafodd ei orffen yng Ngheredigion yng ngorllewin Cymru, mewn ardal ffermio mynydd o’r enw “Soar-y-mynydd,” sawl milltir i’r de-orllewin o dref farchnad Tregaron. Fe deithiodd gor-or-orhennain y rhoddwr i America yn y 1860au, â’r gobaith o ddechrau bywyd newydd. Ond yna fe ddychwelodd i Gymru. Y gred yw bod darnau’r cwilt wedi’u torri allan yn America, ac yna’u rhoi at ei gilydd yn ystod y fordaith hir yn ôl i Gymru.

Mae’r clytwaith yn nodweddiadol Americanaidd, wedi’i ddylanwadu mae’n debyg yn ystod y cyfnod byr y bu’r cwiltiwr yn byw dramor. “Adar yn yr Awyr” yw’r enw ar y bloc. Byddai ffrindiau’n aml yn rhannu manylion hoff flociau cwilt, trwy lythyr neu pan fydden nhw’n cyfarfod i gymdeithasu. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd patrymau poblogaidd yn cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau gan ddod ar gael i gynulleidfa fwy eang fyth.

Clytwaith coch a gwyn

Ref: 2011-6

2011-6 red and white patchwork
2011-6 red and white patchwork

Cwilt clytwaith coch a gwyn a wnaed yng Nghymru yw hwn, yn cynnwys blociau Ffon Gorddi. Mae’r cyfenw Davies wedi’i bwytho â llaw mewn coch yn un gornel o’r cwilt, ar y cefn.

Patrwm blociau cwilt â naw clwt traddodiadol yw’r Ffon Gorddi, yn tarddu o America rhwng 1800 ac 1849. Dywedir bod y bloc yn debyg i’r ffon a ddefnyddiwyd i gorddi menyn. Ond dim ond un o’r enwau di-rif a ddefnyddir ar gyfer y bloc yw hwn; mae’r lleill yn cynnwys: Tyndro Mwnci, Plât Toredig a Thwll yn Nrws y Sgubor. Byddai ffrindiau’n aml yn rhannu manylion hoff flociau cwiltio, trwy lythyr neu pan fydden nhw’n cyfarfod i gymdeithasu. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd patrymau poblogaidd yn cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau gan ddod ar gael i gynulleidfa ehangach fyth ar draws yr Iwerydd, gan gynnwys cwiltwyr Cymreig. Pan adawodd teuluoedd Cymreig Gymru i fynd i America mae’n bur debyg i bwythwyr brwd anfon patrymau cwiltiau yn ôl at aelodau’r teulu a oedd dal gartref.

Mae yna ddeg bloc ar hugain i gyd mewn twil cotwm coch a gwyn. Mae’r trionglau, y sgwariau a’r hirsgwarau wedi’u pwytho â llaw mewn edau wen. Mae ffril coch a gwyn wedi’i bwytho â pheiriant o amgylch yr ymyl. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau wen. Mae yna fedaliwn yn y canol sy’n cynnwys cylchoedd, ac yna ceir mwy o gylchoedd o amgylch hwn mewn dau faint a llinellau.

Cwilt Croes Goch Tywyn

Ref: 2013-3-B

2013-3-B Towyn Red Cross quilt
2013-3-B Towyn Red Cross quilt

Gwnaed y cwilt clytwaith mawr hwn yng Nghanada ac anfonwyd ef i Brydain gyda pharseli bwyd gan y Groes Goch yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn y diwedd, daeth i Dywyn, sef tref glan môr fach yng nghanol gorllewin Cymru. Dogfennwyd y cwilt yn wreiddiol ym Mhrosiect Treftadaeth Cwiltiau Prydeinig Urdd y Cwiltwyr ym 1990, yn Amwythig, a daeth yn rhan o’n casgliad ni yn 2013.

Byddai menywod yng Nghanada’n defnyddio ffabrigau bob dydd a thechnegau sylfaenol i wneud cwiltiau’n gyflym ac yn syml ar gyfer ymdrech y rhyfel, gan ddefnyddio ystafelloedd gwnïo’u canghennau Croes Goch. Y Gweithdy Safonedig oedd yn gyfrifol am gydlynu’r ymdrech – ac yna byddai’r cwiltiau’n cael eu dosbarthu ar raddfa anferthol ym Mhrydain i bobl yr oedd y bomiau wedi’u gorfodi i adael eu cartrefi eu hunain.

Mae’r clytwaith yn cynnwys blociau o naw clwt, wedi’u pwytho â pheiriant a’u huno i lunio pum prif stribyn. Mae pedwar stribyn cul o ffabrig yn rhannu pob un o’r rhain. Mae yna ffabrigau blodeuog amrywiol, patrymau sgwarog a rhai dillad plant wedi’u hailgylchu, yn cynnwys delweddau o feiciau, pysgod a phlant. Mae’r wadin yn cynnwys dau flanced ysgafn o ffibrau cymysg. Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw mewn edau wen ar ffurf sieffrynau ar y blociau. Mae’r stribynnau cul wedi’u cwiltio mewn llinellau hir.

Mae’r cefn wedi’i wneud o sachau porthiant cotwm crai sydd wedi’u huno â’i gilydd – roedd hi’n beth cyffredin i gwiltwyr Gogledd America ailgylchu sachau.

Cwilt Plentyn Wedi’i Wau

Ref: 2008-5

2008-5 knitted quilt
2008-5 knitted quilt

Credir mai menyw a anwyd ym 1898 wnaeth y cwilt hwn.  Menyw trin gwallt oedd hi, ac mae’r aelod o’r teulu a wnaeth rodd o’r eitem yn ei chofio’n cludo jygiau o ddŵr (wedi’i ferwi ar dân agored y grât yn y gegin) i fyny’r staer i’r ystafell lle roedd hi’n trin gwallt – ac wrth gwrs, yn cario’r dŵr budr yn ôl i lawr.  Roedd hefyd yn cofio arogl cryf gwirod methyl o’r llosgwr bach roedd hi’n ei ddefnyddio i gynhesu’r heyrn crychu gwallt.

Mae’r ochr ar i fyny wedi’i wneud o siapiau wedi’u gwau – trionglau, hirsgwarau a diemwntau.  Gwlân pedair cainc yw’r gwlân yn bennaf, gyda rhywfaint yn ddwy gainc.  Mae wedi’i wau mewn pwyth hosan yn bennaf, gyda rhywfaint o bwythau mwsogl.  Mae’r siapiau i gyd wedi’u gwnïo ar flanced wlân, mewn arddull clytwaith gyda medaliwn yn y canol a borderi.  Mae wedi’i gwiltio â chlymau o edau gotwm wen.   1680 x 975mm

Gorchuddion Clustogau â Chordyn

Ref: 2003-11

2003-11 corded cushion covers
2003-11 corded cushion covers
2003-11 corded cushion covers

Achubwyd y rhain o siop Oxfam Llanidloes a gwnaed nhw yn y 1950au.  Maen nhw wedi’u gwneud o satîn cotwm ar ben ffabrig sylfaen mwslin ac maen nhw’n binc llachar.  Mae’r ddau yn defnyddio cwiltio â chordyn.

 

Ar y cyntaf, mae’r gwaith cordyn wedi’i orffen ond nid yw darnau’r clustog wedi’u rhoi at ei gilydd. Mae ganddo ddyluniad delltwaith sy’n cynnwys menyw Japaneaidd.  Ar yr ail glustog, mae’r dyluniad wedi’i linellu ond dim ond mewn pedair cornel y mae wedi’i bwytho. Nid oes unrhyw gordyn wedi’i wthio trwodd.  Menyw crinolin yw’r dyluniad.

Meintiau: 490 x 490mm a 500 x 525mm.

Gorchudd Gwely Wedi’i Frodio

Ref: 1999-4-B

1999-4-B embroidered bedcover
1999-4-B embroidered bedcover detail

Gwnaed rhodd o’r gorchudd gwely hwn sydd wedi’i frodio gan gartref gofal pan fu’r preswylydd a oedd berchen arno farw.  Mae wedi’i wneud o dri lled o ffabrig cotwm wedi’i wehyddu â llaw sydd wedi’u huno â’i gilydd, gyda ffabrig cefndir lliw aur dwfn/ oren ac mae wedi’i frodio â phwythau cadwyn mewn edau wlân o liwiau amrywiol.  Mae yna rimyn 55mm o’i amgylch.

1990 x 1570mm.

Brethyn Indiaidd

Ref: 2000-3-C

2000-3-C indian textile
2000-3-C indian textile detail

Darn o’r India yw hwn sydd wedi’i wneud o gotymau marŵn, mwstard a gwyrdd.  Mae’r ffabrig wedi’i brintio â blociau pren ac mae wedi’i bwytho â llaw â phwythau rhedeg addurnol (kantha) ar wahân i’r ymylon, lle y mae pwyth croes wedi’i ddefnyddio. Mae yna hefyd ychydig o appliqué gwrthdro â drychau shisha sy’n cadw’r ysbrydion drwg draw a bwriad y patrwm igam-ogam oedd eu drysu.  2106 x 1420mm.

Blanced ‘Cymru Fydd’

Ref: 2001-9

2001-9 welsh blanket
2001-9 welsh blanket detail

Yn ôl pob tebyg, cynhyrchwyd y flanced hon ym Melin Trefriw ger Llanrwst yng Ngogledd Cymru rhwng 1927 a 1950.  Fe fyddai wedi’i gwneud ar beiriant gwehyddu Jacquard ac mae’n gopi o ddyluniad ar gwilt a gyflwynwyd i Frenin Edward VII pan agorodd Waith Dŵr Caernarfon ym 1876, pan roedd yn Dywysog Cymru.

 

Gwnaed y cwilt gwreiddiol ar wŷdd llaw un siafft ar bymtheg gan John Roberts, gwehydd llaw o Gaernarfon.  Cwrlid coch a gwyn yw hwn sy’n dangos darluniau o Gastell Caernarfon, o’r enw ‘Cymru Fu’ a Choleg Prifysgol Aberystwyth, gyda’r geiriau ‘Cymru Fydd’.  Mae yna forder uwchben ac o dan yr adeiladau, pob un â lluniau o ddwy ddraig Gymreig bob ochr i lun o dair cenhinen sy’n edrych o bell fel fleur-de-lis – plu Tywysog Cymru.  1798 x 1500mm.

Darn Coroniad

Ref: 2001-11

2001-11 coronation diamond

Panel siâp diemwnt yn darlunio Edward VII ac Alexandra yw hwn a wnaed, yn ôl pob tebyg, ar gyfer y coroniad ym mis Awst 1902.  Mae wedi’i wneud o gotwm ac mae yna arwyddion o bwytho o gwmpas yr ymylon. Mae’n bosibl ei fod wedi bod yn ganol i orchudd bwrdd neu gwrlid.  Mae’r ddelwedd  wedi’i phrintio arno.

670 x 360mm

Cwiltio â Chordyn Sampl Reion

Ref: 2002-5-A

2002-5-A silk corded quilting
2002-5-B silk corded quilting

Mae hwn yn sampl o gwiltio â chordyn reion ac yn un o bâr.  Mae’n debyg iddo gael ei wneud yn y 1920au neu’r 1930au, mewn ffabrig reion pincfelyn ac mae’n darlunio pâr o adar a blodau. Mae’r blodau wedi’u hamlinellu mewn coch, y dail mewn gwyrdd, y tendriliau mewn brown, ac mae yna bwyth chwipio du a glas ar gyfer cyrff yr adar ar yr ochr ar i fyny o’r cwiltio â chordyn.  1710 x 805mm &  1715 x 803mm.

Cwilt Dieuwke Philpott

Ref: 2003-13

2003-13 dieuwke philpott's quilt
2003-13 dieuwke philpott's quilt detail

Yn dwyn yr enw Swatches, crëwyd y cwilt cyfoes hwn ar gyfer Arddangosfa Inspirations Laura Ashley yn 2003 a gwnaeth y gwneuthurwr rodd ohono ar ôl hynny.  Mae wedi’i wneud o ffabrigau Laura Ashley yn rhychwantu dau ddegawd, mewn amrywiaeth o weadeddau, patrymau a lliwiau ac mae’r gwneuthurwr wedi defnyddio sawl techneg, gan gynnwys appliqué a chaban pren.  Mae’r patrymau cwiltio ar y blaen a’r cefn yn wahanol – y blaen wedi’i gwiltio mewn llinellau cyfochrog, y cefn mewn llinellau syth. 1525 x 1280mm.

Lliain Bwrdd Cul

Ref: 2004-1-D

2004-1-D table runner

Lliain bwrdd cul yw hwn a wnaed rywbryd cyn yr Ail Ryfel Byd, gyda brodwaith yn rhedeg trwy’r canol.  Gwnaed rhodd ohono fel rhan o gasgliad o ddarnau tecstil bach.  Mae’r brodwaith mewn glas, coch, gwyrdd a du.  Mae ganddo ddau forder uwch ei ben ac oddi tano, y cyntaf wedi’i wneud o ffabrig patrymog brown, yr ail o rubanau glas.  O gwmpas ymylon y peth cyfan ceir les cyrten rhwydwe ac mae yna rwydwe gotwm ar y cefn.   634 x 389mm.

Bag Tacluso

Ref: 2004-1-E

2004-1-E tidy bag

Bag tacluso yw hwn, o bosibl wedi’i wneud yn y cyfnod Edwardaidd, a gwnaed rhodd ohono fel rhan o gasgliad o ddarnau tecstil bach.  Mae wedi’i wneud o sidan gwehyddiad plaen ac mae iddo leinin satin sidan i’r fflap a handlen ac ymyl o ruban sidan.  

 

Mae yna ddau fotiff wedi’u brodio a’u cynhyrchu’n fasnachol sy’n rhan o’r appliqué ar y blaen a’r fflap.  Mae yna ‘ffril’ allanol hefyd o les gemegol o gwmpas yr ymylon.  Math o les wedi’i wneud â pheiriant yw les gemegol, hefyd o’r enw Les Schiffli oherwydd iddo gael ei wneud ar wŷdd a ddyfeisiwyd gan Isaak Gröbli ym 1863.   Gair am gwch yn Almaeneg yw ‘schiff’ a byddai’r gwŷdd yn defnyddio gwennol siâp cwch. 407 x 250mm.

Pen-blwydd Hapus Minerva

Ref: 2004-2

2004-2 happy birthday Minerva detail

Cwilt cyfoes yw hwn, wedi’i wneud gan Diana Brockway yn 2004 i ddathlu deng mlynedd o arddangosfeydd y Gymdeithas Gwiltiau yn Llanidloes.  Mae Minerva, duwies Rufeinig doethineb a’r celfyddydau, i’w gweld arno.  Yn ôl Diana, mae Minerva “yn cael ei chysylltu ag Athena ac mae felly hefyd yn dduwies rhyfel.  Yn gyffredinol, mae i’w gweld yn gwisgo helmed.  Rydw i wedi defnyddio deilen aur ar gyfer yr helmed, sydd wedi’i atodi at y sidan â Bondaweb. 

 

Defnyddiais stensil i greu’r ffigur, gyda ffyn paent Markal, ac yna gosodais y sidan drosto.”   Mae gan ffigur Minerva fathodyn metel “Happy 10 Birthday” ar ei hysgwydd.  Mae’r ffigur wedi’i osod fel appliqué ar y cefndir gyda phwythau peiriant mewn edeifion glas ac aur ac mae’r cwiltio’n frodwaith rhydd â pheiriant mewn edau aur.  835 x 336mm.

Brodwaith Indiaidd

Ref: 2006-6

2006-6 indian embroidery
2006-6 indian embroidery detail

Darn o frodwaith Indiaidd ar ffabrig gwlân yw hwn.  Mae band o ffabrig sidan pinc wedi’i frodio’n drwm â llaw i mewn i’r dyluniad sydd wedi’i wneud ag edau aur.  Mae yna hefyd rywfaint o edau fetel wedi’i chowtsio, peth ohoni’n glustogog.  Mae yna rai blodau hefyd wedi’u gwneud o edau fetel wedi’i chowtsio â sidan bras.  Mae wedi’i gynhyrchu’n fasnachol.   2630 x 405mm.

Cwilt Anorffenedig Wedi’i Orchuddio

Ref: 2006-11

2006-11 unfinished covered quilt
2006-11 unfinished covered quilt detail

Darn o gwilt a gynhyrchwyd yn fasnachol yw hwn, sydd wedi’i orchuddio â neilon blodeuog pinc a’i gwiltio.  Mae’r cwilt gwreiddiol wedi’i wneud o satîn cotwm gwyrdd gyda chrêp ar y cefn, ac mae wedi’i gwiltio mewn pwyth cadwyn ar beiriant.  Mae’r gorchudd newydd wedi’i wneud o reion pinc, sydd wedi’i lapio o gwmpas y cwilt gwreiddiol cyfan, ynghyd â ffabrig print blodeuog neilon ar un ochr.  Mae’r holl beth wedi’i gwiltio â llaw mewn edau gotwm sglein binc. 

 

Mae edau’r brasbwythau yn dal i fod yno ac mae yna glymau ar y wyneb felly nid yw wedi’i orffen. 1030 x 1895mm.

Cwilt Cot Haenog Blodeuog

Ref: 2007-2

2007-2 cot quilt
2007-2 cot quilt detail

Mae’r cwilt cot hwn yn edrych fel petai’n nifer o gwiltiau sydd wedi’u gorchuddio a’u hailgwiltio.  Mae gan y ffabrig blodeuog print gefndir du sydd wedi’i ddefnyddio ar gyfer yr haen ar yr ochr ar i fyny, sy’n awgrymu bod yr haen hon wedi’i hychwanegu yn ystod y 1940au.   Defnyddiwyd yr un ffabrig ar y ddwy ochr ond mae un yn frethyn cyfan a’r llall yn cynnwys chwe darn wedi’u huno â’i gilydd.  Mae wedi’i gwiltio â pheiriant mewn llinellau (yn ôl pob tebyg) o edau gotwm.  1295 x 794 x15mm.   

Cwilt Marie Roper

Ref: 2007-9

2007-9 marie roper's quilt
2007-9 marie roper's quilt detail

Yn dwyn yr enw Following Paths and Strands, cafodd y cwilt cyfoes hwn ei greu ar gyfer arddangosfa Inspirations Laura Ashley yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva yn 2003 a gwnaeth y wneuthurwraig rodd ohono yn 2007.  Mae wedi’i wneud o ffabrigau Laura Ashley a oedd wedi’u rhoi i’r Gymdeithas Gwiltiau.  Cymerodd Marie fwndel o’r rhain a chynhyrchodd y cwilt hwn sydd wedi’i wneud o liwiau coch a gwyrdd llachar ar ddu.< Mae wedi’i lunio gan ddefnyddio stripiau a’r dechneg caban pren.  Gwnaed y cwilt gan ddefnyddio cwiltio â llaw mewn edau ddu a chwiltio rhydd â pheiriant o ddail ac ysgrifen mewn edau lliw ceirios ar y border a’r fframiau.  Darnau o ffabrigau Laura Ashley wedi’u pwytho â pheiriant mewn edau werdd yw’r cefn.

975 x 895mm.

Cwrlid Clytwaith Ffug

Ref: 2010-2-B

2010-2-B faux patchwork coverlet
2010-2-B faux patchwork coverlet detail

Cwrlid o ddiwedd y 19eg Ganrif yw hwn, wedi’i wneud yng Ngogledd Cymru gan ddefnyddio cotwm clytwaith ffug.  Mae gan un ochr stribyn o hwn yn y canol gyda dau banel ar bob ochr iddo.  >Mae’r ochr arall yn cynnwys sioliau persli gwlân manweaidd wedi’u huno â’i gilydd i wneud pedwar panel.  Mae rhai o’r borderi o ffabrig gwahanol, lle roedd y gwneuthurwr wedi rhedeg allan o ffabrig mae’n debyg.  Mae diffygion printio yn y ffabrig persli ei hun sy’n rhedeg mewn stripiau i lawr y patrwm ar ei hyd. 2045 x 2218mm.

Gorchudd Gwely wedi’i Grosio

Ref: 2011-1

2011-1 crocheted bed cover
2011-1  crocheted bed cover

Gorchudd gwely wedi’i grosio yw hwn, a wnaed yng Ngogledd Cymru ym 1916.  Mae’r gorchudd wedi’i wneud o flociau sgwâr 7 modfedd sydd wedi’u gwnïo at ei gilydd.  Yn y canol ceir Gweddi’r Arglwydd ac mae yna elyrch o gwmpas yr ymyl.  Mae’r llythrennau AVH a’r dyddiad 1916 wedi’u gweithio i waelod y bloc canol.  Croes yw’r bloc canol uchaf.

Cwrlid Bwrdd Wedi’i Frodio

Ref: 2011-2-D

2011-2-D table coverlet
2011-2-D table coverlet detail

Gwnaed hwn yn y 1940au.  Dywedodd ein rhoddwr ei fod ‘wedi’i wnïo yn ystod y rhyfel pan roedd deunyddiau’n anodd i’w cael.  Prynodd rhywun liain sychu llestri â phatrwm sgwarog a defnyddio’r sgwariau fel sylfaen i’r brodio.’  Mae’r lliain sychu llestri cotwm wedi’i frodio mewn edau brodwaith gotwm geinciog mewn glas a melyn, mewn pwyth ‘gwe pryf gop’ sy’n edrych fel blodau bychain.  Mae ymyl o les wedi’i wneud â pheiriant wedi’i hychwanegu a darn o satîn cotwm melyn yw’r cefn.

510 x 480mm.

Cwrlid Ffabrig y Fyddin

Ref: 2012-2

2012-2 army fabric coverlet
2012-2 army fabric coverlet detail

Mae ein rhoddwr yn cofio’r cwilt hwn fel ‘un oedd wastad o gwmpas y lle’ yn nhŷ ei hen ewythr ym Manceinion pan oedd yn blentyn.  Mae’n meddwl mai ei hen nain oedd wedi’i wneud o bosibl.   Mae’n dyddio o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae wedi’i wneud o ffabrig lifrai’r fyddin o wlân caci – torion o bosibl o’r ffatri a oedd yn ei gynhyrchu ym Manceinion.  Mae’r ochr ar i fyny a’r cefn (nid oes unrhyw wadin) wedi’u gwneud o stribedi o ffabrig wedi’u pwytho at ei gilydd â llaw gyda phwythau bach iawn.  1645 x 1690mm.

Croglun Linda Kemshall

Ref: 2013-1

2013-1 linda kemshall wall hanging

Croglun cyfoes yw hwn o’r enw Reverie 1 a wnaed ym 1998 gan Linda Kemshall, artist, awdures, cwiltwraig ac athrawes dylunio a chelf tecstilau. Mae wedi’i wneud o ffabrigau cotwm wedi’u lliwio â llaw sy’n amryliw – melyn, pinc a phiws.  Brethyn cyfan gydag ychydig o appliqué peiriant i lawr y canol yw hwn.  Mae yna bwytho â llaw a pheiriant gyda gleinwaith ac mae’r darn wedi’i gwiltio’n ddwys iawn yn arddull vermicelli. Defnyddiwyd edau brodwaith ar gyfer y pwytho â llaw ac mae ychydig o edau frith wedi’i defnyddio ar gyfer y gwaith â pheiriant. Mae’r ymylon wedi’u rhwymo ag ychydig o bwytho blanced yn y gornel waelod chwith. 1449mm x 489mm.

Croglun Marie Roper

Ref: 2013-2

2013-2 marie roper wall hanging_edited
2013-2 marie roper wall hanging detail

Croglun bychan gan Marie Roper. Mae Resolved Landscape wedi’i nodi ar y label.   Mae wedi’i wneud o ffabrigau cotwm, y rhan fwyaf wedi’u lliwio â llaw gydag ychydig o batrymau batic masnachol, ac mae’r darn hwn yn defnyddio arddull clytwaith ‘rhydd-dorri’.  Mae yna goeden yn y canol gyda chefndir o dirwedd haniaethol wedi’i ysbrydoli gan ffin Cymru/ Swydd Henffordd. Mae’r darn wedi’i gwiltio â symudiad rhydd gydag amrywiaeth o edeifion lliw a brith. 530 x 425mm.

Cwilt Sefydliad y Merched Llandrillo

Ref: 2017-11

Llandrillo WI A
Llandrillo WI

Enillodd y cwilt hyfryd hwn y wobr gyntaf i Sefydliad y Merched Llandrillo ym 1997, mewn cystadleuaeth yr oedd Sefydliad y Merched yn ei rhedeg yng Nghymru. Mae yna wyth ar hugain o baneli wedi’u fframio, pob un wedi’i gwiltio â llaw yn gywrain gyda naill ai dyluniad o flodyn neu gwlwm Celtaidd.  Ffabrig cotwm hufen yw’r paneli a dyluniad blodeuog mewn gwyrdd a phinc yw ffabrig y fframio. Mae’r paneli wedi’u hamgáu o fewn border hufen wedi’i gwiltio â llaw gan ddefnyddio patrwm y cwlwm Celtaidd. Cotwm tenau yw’r wadin a ffabrig hufen plaen yw’r cefn. Mae’r rhwymiad o’r un deunydd â’r deunydd fframio.  2440mm x 1570mm.

Cwiltiau Beiciau Modur

Ref: 2021-4-A/B

2021-4A & B

Gwnaed y ddau gwilt hyn yn lleol i Lanidloes gan aelodau o’r un teulu.  Mae’n debyg iddyn nhw gael eu gwneud yn wreiddiol yn y 1920au a’r 1930au gan nain a hen nain y rhoddwr, gyda’r nain yn byw yn Llawryglyn a’r hen nain yn Llanwnog.  Defnyddiodd mam y rhoddwr ffabrig Laura Ashley i’w trwsio nhw ar ryw adeg, yng Nghaersws. 

 

Mae’r ddau mewn cyflwr gwael iawn – maen nhw wedi’u defnyddio i orchuddio beiciau modur Triumph a Harley Davidson am flynyddoedd felly maen nhw’n dangos ôl traul braidd – ond maen nhw’n ddiddorol oherwydd eu bod nhw’n rhoi cipolwg i ni ar sut roedd cwilt yn cael ei adeiladu mewn tair haen.  Mae gan un ohonyn nhw gwilt hŷn oddi mewn iddo fel wadin ac mae gan y llall gwilt arall neu gwrlid oddi mewn iddo yn ogystal â darn o flanced o frethyn gwlân.  Defnyddiwyd poced glwt gotwm i drwsio un.  Mae’r ddwy eitem hyn yn adrodd stori am deulu yn gwneud, yn trwsio ac yn pasio’r cwiltiau hyn ymlaen trwy’r cenedlaethau ac er nad oedden nhw’n cael eu defnyddio i gadw’n gynnes yn y nos mwyach, roedden nhw’n dal i gael eu defnyddio i amddiffyn eiddo a oedd yn werthfawr i’r teulu.  Cwilt 1 1740mm x 1930mm.  Cwilt 2 1830mm x 1590mm.

Gorchuddion Clustogau Wedi’u Cwiltio

Ref: 1999-5

1999-5 pair handquilted cushion covers
1999-5 pair handquilted cushion covers

Pâr o orchuddion clustogau wedi’u cwiltio gyda ffriliau pletiog a wnaed yn y 1930au neu’r 1940au.  Wedi’u gwneud o reion o bosibl, ac mae’r lliw pincfelyn gwreiddiol wedi pylu i arlliw coffi.  Brethyn cyfan wedi’i gwiltio â llaw yw’r clustogau, gan ddefnyddio pwythau rhedeg bach.  Mae clustog 1, sy’n mesur 560 x 570mm, mewn cyflwr eithaf ac mae ganddi ddyluniad torch ar y tu blaen gyda blagur yn y corneli. Mae gan y cefn ddyluniad blodyn â phetalau gyda rhosod a thendriliau yn y corneli.  Mae clustog 2 yn mesur 565 x 575mm, gyda Martha Washington Rose ar y tu blaen a dyluniad torch ar y cefn.  Yn anffodus, mae rhywbeth, llygod mae’n siŵr, wedi cnoi un gornel ar ryw adeg.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu
Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

bottom of page