top of page
log cabin EDITED.jpg

Gorchudd caban pren Mrs Phillips (1885)

Ref: 1995-1

1995-1 Mrs Phillips log cabin
1995-1 Mrs Phillips log cabin
1995-1 Mrs Phillips log cabin

Gorchudd caban pren heb ei orffen, a wnaed tua 1885 yw hwn, a dyma oedd y darn cyntaf yng nghasgliad y Gymdeithas Gwiltiau. Daeth o dref fechan Ystradgynlais ar fin de-orllewinol Powys, nid nepell o gymoedd Abertawe.

Nain Mrs Phillips a wnaeth y gorchudd. Roedd ganddi wyth o blant, tyddyn â dwy fuwch a gardd fawr. Gwnaeth hi faethu dau o blant hefyd. Mam Mrs Phillips oedd y plentyn hynaf, a byddai hi’n gwneud llawer o wnïo. Mae Mrs Phillips yn cofio’i nain yn gwneud elïau amrywiol i “un ac oll”.  “Roedd yna bob amser awyrgylch caredig yn y tŷ.”

Mae’r darn hwn sydd heb ei orffen mewn dau ddarn, â dyluniad caban pren Heulwen a Chysgod. Mae’r darnau wedi’u pwytho â pheiriant, a defnyddiwyd lliain twil fel ffabrig sylfaen.

Clustog Caban Pren

Ref: 2007-7

2007-7 log cabin cushion
2007-7 log cabin cushion

Daw’r glustog clytwaith caban pren brydferth hon o ardal Aberaeron yng Ngheredigion yng Ngorllewin Cymru. Mae’r 16 bloc o batrwm Heulwen a Chysgod wedi’u huno â llaw â stribedi cul iawn o felfedau a sidanau. Mae rhai o’r sidanau wedi dirywio. Defnyddiwyd cotwm gwead twil ar y cefn, mewn lliw melynddu, gyda 3 ymyl wedi’u pwytho â pheiriant, a’r ymyl arall wedi’i chau ag edau du wedi’i droswnϊo.

Mae’r glustog yn mesur 455 x 440mm, ac mae’n bur debyg mai plu sy’n ei llenwi.

Caban pren Mr Hill (c1870s)

Ref: 2002-16

2002-16 mr hill's log cabin
2002-16 mr hill's log cabin

Mr Hill o Harrow, sef peintiwr portreadau o fri, oedd berchen ar y cwilt caban pren traddodiadol hwn. Fe’i gwnaed ar ddiwedd y 19eg ganrif ac fe’i rhoddwyd i’r Gymdeithas Gwiltiau yn 2002.

Mae’r cwilt yn mesur 2275 x 2050mm ac mae’n glytwaith caban pren wedi’i wneud â ffabrigau cotwm gwehyddiad plaen sydd wedi’u printio ac sydd o bwysau amrywiol. Mae rhai o’r ffabrigau’n dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif ond mae eraill yn fwy diweddar. Brethyn caerog cotwm yw’r sgwariau coch yng nghanol y blociau, ac mae wedi’i gwiltio â llaw mewn edau gotwm gwyn.

Roedd lle amlwg i’r cwilt yn sioe “Dathlu Deg” yn 2004, sef sioe haf y Gymdeithas Gwiltiau yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed

Cwrlid caban pren

Ref: 2009-4-B

2009-4-B log cabin coverlet
2009-4-B log cabin coverlet

Gwnaed y clytwaith caban pren hwn, â dyluniad Heulwen a Chysgod, ym mhentref bach Llanarth, Gorllewin Cymru, yn y 19eg ganrif. Roedd cwrlidau bwrdd fel hwn yn boblogaidd yn oes Fictoria tuag at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd darnau o ffabrigau dethol fel sidanau a felfedau’n berffaith i’w defnyddio mewn darnau clytwaith caban pren a chlytwaith ar hap.

Nid yw’n gwbl hysbys pwy wnaeth y clytwaith, ond roedd y rhoddwr yn meddwl mai un o’r teulu Davies, a oedd yn byw yn Llanarth, a’i wnaeth. David Davies (1826 – 1903) oedd y cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau yn Llanarth, ac roedd yn byw yno â’i wraig Grace (1828 – 1901).

Mae’r caban pren wedi’i lunio o ffabrigau amrywiol, gan gynnwys darnau sidan, satin, felfed a gwlân mewn lliwiau amrywiol. Mae’r clytwaith wedi’i glymu yn y ffabrig ar y cefn. O amgylch yr ymylon ceir ffril satîn cotwm mewn pinc dwfn sydd wedi colli ei liw i ddod yn lliw rhwd. Mae hwn wedi’i bwytho â pheiriant at y clytwaith caban pren, rywbryd yn ddiweddarach o bosibl. Satîn cotwm pinc yw’r ffabrig ar y cefn.

Caeau a chwysi caban pren (c1860)

Ref: 2010-3-A

2010-3-A log cabin fields and furrows
2010-3-A log cabin fields and furrows

Fe brynodd rhoddwr y cwilt caban pren mawr hwn, ar arddull Caeau a Chwysi, ar ddechrau’r 1990au ym marchnad wartheg Dolgellau yng Ngogledd Cymru, am ryw £52.00. Aeth ag ef i’r ddiwrnod dogfennu cwiltiau a drefnwyd gan Urdd y Cwiltwyr fel rhan o brosiect Cwiltiau Treftadaeth Prydain yn Amwythig yng nghanol y 1990au. Yno, pennwyd dyddiad o ryw 1860 i’r cwilt.

Mae’r clytwaith caban pren yn cynnwys darnau felfed, sidan a chotwm a brocedau mewn lliwiau amrywiol. Mae’r cotwm brown ar y cefn wedi’i gwiltio ar arddull delltwaith ar haen fewnol o wlân wedi’i gribo, mewn brown tywyll. Mae’r blociau wedi’u pwytho â llaw ac wedi’u rhoi at ei gilydd i greu llinellau lletraws o liwiau tywyll a golau sydd, medden nhw, yn edrych fel rhesi mewn cae sydd newydd ei aredig. Mae gan y cwilt ymyl o felfed brown â sgwariau du yn y corneli, ac mae wedi’i droi i’r cefn a’i bwytho â phwythau pennog.

Panel Caban Pren

Ref: 1999-1

1999-1 log cabin panel detail
1999-1 log cabin panel detail

Mae’r panel hwn o 10 o flociau caban pren wedi’i wneud gan ddefnyddio’r dechneg caban pren plyg, a gwnaed rhodd ohono ym 1999.  Sidanau, rhubanau a brocedau yw’r ffabrigau ac mae canol pob bloc wedi’i wneud o ffabrigau wedi’u cwiltio â pheiriant.  Lliain twil gwyn yw’r ffabrig ar y cefn ac mae’n debygol bod y panel wedi bod yn rhan o ddarn mwy yn wreiddiol.  1465 x 290mm.

Cwilt Ffenestri Caban Pren

Ref: 2003-1

2003-1 Katherine Guerrier's quilt detail
2003-1 Katherine Guerrier's quilt

Cwilt cyfoes yw hwn a wnaed gan Katherine Guerrier gan ddefnyddio techneg y caban pren plyg.  Gwnaed ef ym 1988 ac, yn yr un flwyddyn, enillodd y wobr gyntaf yn yr adran ‘clytwaith’ yn arddangosfa Gwiltiau gyntaf y DU yn Malvern.  Katharine Guerrier wnaeth rodd o’r cwilt i ni yn 2003.  Mae wedi’i wneud o hen ddarnau o Liberty Tana Lawn, sef ffabrig cotwm lliain main, mewn amrywiaeth o liwiau ond coch a glas yn bennaf.  Mae’r blociau caban pren plyg wedi’u hadeiladu ar sgwariau sylfaen o galico, gan ddechrau yn y canol gyda blociau naw clwt miniatur. 

 

Mae’r blociau wedi’u gosod ymyl wrth ymyl ac wedi’u gludo â bondaweb, yna wedi’u pwytho â phwyth satin i guddio’r ymylon.  Yna, mae’r stripiau plyg wedi’u hadeiladu tuag allan yn nyluniad y caban pren. Calico yw cefn y blociau, sy’n ffurfio haen ganol y cwilt – nid oes unrhyw wadin arall.  Cotwm glas y llu awyr yw’r cefn ac mae wedi’i gwiltio â pheiriant yn y ffos ar hyd ymyl pob bloc.   Mae’r cwilt yn ymddangos yn llyfr Katharine How to Design and Make Your Own Quilts, a gyhoeddwyd ym 1991.

1520 x 1520mm.

Cwilt Caban Pren

Ref: 2003-10

2003-10 log cabin quilt
2003-10 log cabin quilt detail

Gwnaed y cwilt hwn, ar ddiwedd y 1930au neu’n gynnar yn y 1940au, gan fenyw o’r enw Lily o Ddwyrain Swydd Efrog. Roedd hi mewn gwasanaeth yn Ilkley pan ddaeth hi a Jack, mecanig beic o ardal Kendal, at ei gilydd.  Priododd y ddau a chael dwy ferch ond wedyn aeth Jack i ffwrdd i’r rhyfel felly bu’n rhaid i Lily fynd yn ôl i wasanaeth, gan adael ei phlant yng ngofal y teulu.  Ar ôl y rhyfel, symudodd y teulu i Middlesex, lle bu Lily farw yn y 1950au.  Rydyn ni’n cymryd bod Jack wedi goroesi’r rhyfel er nad ydyn ni’n sicr.  Wyresau Lily wnaeth rodd o’r cwilt. 

 

Clytwaith caban pren yw’r ochr ar i fyny, wedi’i wneud o ffabrigau cotwm sy’n gymysgedd o ffabrigau blodeuog, streipiog, smotiog, sgwarog a gingham mewn amrywiaeth o liwiau.  Mae pob un o’r blociau wedi’u pwytho â llaw ar ffabrig gingham ond maen nhw wedi’u huno at ei gilydd â pheiriant.    Lliain fflaneléd yw’r wadin gyda phwyth blanced o gwmpas yr ymyl a ffabrig cotwm blodeuog yw’r cefn. 

1370 x 1645mm.

Croglun Caban Pren

Ref: 2004-1-A

2004-1-A log cabin hanging
2004-1-A log cabin hanging detail

Croglun caban pren o ddyddiad anhysbys yw hwn, mewn amrywiaeth o ffabrigau sy’n cynnwys melfed a sidan caerog mewn coch, glas, brown a llwydfelyn.  Gwnaed rhodd ohono fel rhan o gasgliad o ddarnau tecstil bach yn 2004.

1343 x 568mm.

Cwilt Caban Pren Sidan a Brocêd

Ref: 2021-05

2021-5

Prynodd rhoddwr y cwilt hwn ef oddi wrth y casglwr Ron Simpson yn yr 1980au.  Credir ei fod o Gymru, ac wedi’i wneud rhwng 1870 a 1900.  Clytwaith amryliw, caban pren ydy’r ochr ar i fyny. Gwnaed y cefn o dri darn o dwil print.  Does dim wadin, ac mae’r cefn wedi’i droi i’r blaen ac wedi’i bwytho i’w le i ffurfio rhwymiad.  Mae pwythau duon, sydd wedi’u clymu, yn uno’r ochr ar i fyny a’r cefn gyda’i gilydd i’w lle.  1895mm x 1889mm.

Cwilt Tegwyn

Ref: 2021-8

2021-8

Dyma gwilt wedi’i wneud o amrywiaeth o ffabrigau cotwm coch, gwyn a glas. Mae yna fedaliwn canolog sgwâr ar yr ochr ar i fyny, wedi’i wneud o naw bloc caban pren a phob un ohonyn nhw â sgwâr bach glas yn y canol a stribedi coch a gwyn yn ffurfio’r trionglau o’u hamgylch. O bob cornel o’r sgwâr canolog mae yna res o 3 bloc caban pren sy’n ymestyn tuag at bob cornel o’r cwilt. Mae stribedi o ffabrig coch a gwyn bob yn ail yn eu gwahanu. 

 

Os edrychwch chi’n ofalus, gallwch chi weld gwall yn y dyluniad gan fod un o’r rhesi o flociau caban pren yn wynebu ffordd wahanol i’r lleill! Mae’r blociau a’r stribedi wedi’u pwytho â’i gilydd â pheiriant mewn edau wen. Nid oes unrhyw wadin a chotwm twil gwyn ydy’r cefn. Mae’r ddwy haen wedi’u cwiltio â’i gilydd ar hyd y stribedi mewn patrwm delltwaith.  Does dim cwiltio ar y blociau caban pren ar wahân i du fewn pob sgwâr bach glas.   2210mm x 1830mm.

Cwrlid Cist Landin – Caban Pren

Ref: 2022-6-B

2022-6-B

Gwnaed y cwilt hwn gan Jane Hughes (Bate gynt) tua 1865, a gwnaed rhodd ohono gan ei gor-gor-nith.  Prentisiwyd Jane i weithio gyda gwniadwraig safonol cyn sefydlu’i hun fel cwiltwraig yn Wolverhampton cyn priodi ym 1861. 

 

Mae wedi’i wneud yn gain o ffabrigau sidanaidd wedi’u torri ar letraws, ac mae’r ochr ar i fyny’n cynnwys un ar bymtheg o flociau caban pren wedi’u plygu gyda phatrwm golau a thywyll yn ffurfio sgwâr canolog.  Mae yna forder o felfed gwyrdd tywyll o amgylch hwn.  Mae ffril o sidan neu reion gwyrdd wedi’i ychwanegu.  1787mm x 1800mm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu
Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

quilt association logo white
Visit_Wales

© The Quilt Association 2024

Website designed & built by

RHDesign

The Minerva Arts Centre

High Street, Llanidloes

SY18 6BY 01686 413467

Elusen Gofrestredig No. 1080218  | Wedi'i Gofrestru yng Nghymru No. 3284386

TELERAU A PHOLISÏAU

RHDESIGN ROUNDEL
bottom of page