top of page
Minerva Art Centre white

Llogi Canolfan Celfyddydau Minerva

Mae’r Ganolfan ar gael i sefydliadau eraill ei llogi pan nad yw’r Gymdeithas Gwiltiau’n ei defnyddio. Caiff Canolfan Celfyddydau Minerva fudd o’i lleoliad yng nghanol tref farchnad fach Llanidloes, sydd ei hun yng nghanol Cymru. Mae’n lleoliad sy’n hygyrch iawn, yn hynod amlbwrpas ac yn addas ar gyfer unrhyw rai o’r gweithgareddau a ganlyn:

  • Arddangosfeydd.

  • Cyfarfodydd cyhoeddus.

  • Darlithoedd a sgyrsiau.

  • Ffeiriau.

  • Gweithdai.

  • Rihyrsals.

  • Perfformiadau (os sicrheir y trwyddedau priodol).

  • Cyfarfodydd preifat.

  • Neu unrhyw gyfuniad o’r gweithgareddau uchod.

​

Galeri 1, Galeri 2 a'r Ystafell Waith

Mae yna dair prif ardal yn y Ganolfan, sef Oriel 1 (200 metr sgwâr), Oriel 2 (100 metr sgwâr) a'r Ystafell Waith (100 metr sgwâr). Mae'r holl fesuriadau yn rhai bras. Gellir eu defnyddio gyda'i gilydd (mae yna ddrysau cydgysylltiol) ar gyfer digwyddiad ar raddfa fawr, neu eu harchebu yn unigol ar gyfer digwyddiadau llai. Mae pob ardal yn cynnwys gwres canolog a golau addasadwy.

 

GALLERY 1
gallery 2
workshop

Mae yna hefyd gegin fach, dau doiled (un ohonyn nhw’n hygyrch) a desg derbynfa ger prif fynedfa’r Ganolfan. Mae’r ffi archebu’n cynnwys llogi byrddau a chadeiriau, ac mae byrddau arddangos pwrpasol ar gael am ffi fach ychwanegol.

Cysylltwch â’r Ganolfan ar 01686 413467 i gael mwy o wybodaeth. Gellir lawrlwytho’r amodau llogi a ffurflen archebu o’r dudalen we hon.

​

"Diolch yn fawr am eich holl help a chyngor gyda 'Celf a Chrefft' adran o'r Eisteddfod Powys. Mae Canolfan y Celfyddydau Minerva yn unig yw y lle i arddangos fel 'na gyda'r holl gyfleusterau yno ac rydym yn clywed llawer o sylvadau rhagorol yn yr adeilad gwych."

Eisteddfod Powys

Ffurflen Archebu

Telerau Llogi

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglÅ·n â Y Gymdeithas Gwiltau neu
Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

bottom of page