top of page
brickwall.jpg

Gorchudd cwilt cotwm wal frics

Ref: 2002-6

2002-6 brickwall cotton top
2002-6 brickwall cotton top

Gorchudd cwilt cotwm wal frics yw hwn. Nid yw wedi’i orffen. Er hynny, mae’n gasgliad rhagorol o ffabrigau samplau o lyfrau patrymau, gyda chyfuniadau lliwiau gwahanol o’r un ffabrigau.

Ffabrigau cotwm ydyn nhw o ddiwedd y 19eg ganrif mewn arlliwiau pinc, glas a gwyn amrywiol. Clytwaith wal frics yw’r arddull, gyda medaliwn canolog o bedwar diemwnt wedi’u rhoi at ei gilydd. Mae’r darn wedi’i bwytho â pheiriant a’i drosbwytho â llaw mewn mannau lle mae’r peiriant wedi neidio.

Byddai hen lyfrau patrymau wedi bod yn ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer clytiau ffabrig i wneud cwiltiau, gan arwain at orchuddion gwely bob dydd ar yr arddull symlaf.

Gorchudd Cwilt Wal Frics Anorffenedig

Ref: 2001-3

2001-3 brick wall unfinished
2001-3 brickwall unfinished detail

Mae’r cwilt hwn, a brynwyd gan y Gymdeithas Gwiltiau am £10, wedi’i wneud o ffabrig wedi’i gymryd o nifer o lyfrau samplau gwahanol.  Mae yna lawer o ffabrigau o wahanol bwysau – ar gyfer cotiau, sgertiau a siwtiau – a mathau gwahanol o ffabrig o wlân naturiol, cotwm wedi cael brwsiad a fisgos artiffisial.

 

Mae’r bloc yn y canol yn defnyddio lliwiau mwy llachar, gan symud at liwiau mwy pŵl o gwmpas yr ymylon.  Pwythwyd y darnau clytwaith mewn arddull wal frics mewn ôl-bwythau, gan ddefnyddio edau gotwm ddu. Ar y cefn gellir gweld labeli cyfan, gyda manylion am y ffabrig, pwysau a chost (sydd cyn y degoli).    2840 x 2390mm.

Cwilt Wal Frics Nain

Ref: 2001-4

2001-4 brickwall quilt
2001-4 brickwall quilt detail

Masnachwr wnaeth rodd o’r cwilt wal frics hwn ac mae wedi’i wneud o samplau siwtiau gwlân mewn glas tywyll, brown, du a llwyd.  Pwythwyd y darnau clytwaith â pheiriant yn yr arddull wal frics, gan ddechrau â phanel goleuach yn y canol gyda’r paneli’n mynd yn dywyllach wrth nesáu at ymylon allanol y cwilt. 

 

Mae pob sgwâr wedi’i gwiltio’n unigol â llaw mewn edau gotwm ddu.  Rhwymwyd y cwilt mewn tâp coch â phatrwm sieffrynau yn y gwead.   1928 x 1618mm.

Cwilt Wal Frics

Ref: 2002-21

2002-21 unfinished brickwall
2002-21 unfinished brickwall detail

Gwnaed y cwilt hwn o samplau siwtiau o ansawdd da mewn lliwiau brown, llwyd, du, glas, piws a gwyrdd.  Mae ochr ar i fyny’r clytwaith mewn dyluniad wal frics o ddarnau hirsgwar cyson eu maint wedi’u pwytho at ei gilydd â pheiriant, ar wahân i un stribyn brown hir, cul. 

 

Clytwaith o ddarnau mwy yw’r cefn, gan gynnwys rhan o hen fantell.  Nid oes unrhyw wadin neu gwiltio, gyda’r ochr ar i fyny a’r cefn wedi’u bytio ar dair ochr.  Mae yna farciau arno o sbrings hen fatres, sy’n awgrymu ei bod yn debygol ei fod wedi’i ddefnyddio o dan fatres.   2145 x 1805mm.

Cwrlid Cotwm

Ref: 2002-7

2002-7 cotton coverlet
2002-7 cotton coverlet detail

Mae gan y cwrlid clytwaith hwn wal frics yn y canol o ffabrigau blodeuog a phlaen coch a gwyn, gyda chlytiau o’i amgylch mewn ffabrigau cotwm amrywiol mewn amrywiaeth o liwiau a phatrymau.  Mae yna forderi ar y top a’r gwaelod, eto mewn coch a gwyn.  Nid oes yna unrhyw wadin ac mae’r cwrlid wedi’i gwiltio â llaw mewn croeslinellu edau gotwm wen. Er bod y cwrlid mewn cyflwr gwael, mae’r cefn yn ddiddorol iawn gan ei fod wedi’i wneud o sachau blawd yn ôl pob golwg.  Mae’n bosibl gweld rhai llythrennau hefyd, gan gynnwys ‘BARRY DOCKS’ ac ‘ASYOULIKEIT’.  1862 x 1662mm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu
Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

bottom of page