top of page

Appliqué naill-ochr blodau gwyn

Ref: 2002-2

2002-2 reverse applique white flowers
2002-2 reverse applique white flowers
2002-2 reverse applique white flowers

Cwilt appliqué mawr naill-ochr yw hwn, gyda naw blodyn trawiadol â border gwyn llydan o’u hamgylch. Pinc pŵl yw’r cefndir erbyn hyn, ond mae’n bosibl mai coch terracotta oedd ar un adeg.

Siâp seren sydd i ganolau’r pedwar blodyn petalog. Gwnaed yr holl waith appliqué â llaw, gan dorri’r cotwm pinc gwehyddiad plaen yn ôl i ddatgelu’r haen ffabrig gwyn oddi tanodd.  I bob golwg, roedd symbolau blodau appliqué mawr yn motiffau cwiltio poblogaidd yng Nghanolbarth Cymru rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae enghraifft drawiadol arall o’n casgliad i’w gweld yma. Mae casgliad cwiltiau Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, ger Caerdydd, yn cynnwys cwilt appliqué â blodau coch a gwyn o Lanbrynmair.

Mae’r cwilt wedi’i gwiltio â llaw gan ddefnyddio edau wen, ac mae’n cynnwys medaliwn yn y canol gyda phelydrau, troellau a phatrymau igam-ogam. Cotwm gwyn gwehyddiad plaen yw’r ffabrig ar yr ochr arall, ac wadin cotwm crai sydd yng nghanol y brechdan cwilt.

Mae’r cwilt wedi’i weld mewn sawl arddangosfa yng Nghanolfan Celfyddydau Minerva, gan gynnwys sioe haf 2014, pan roedd y Gymdeithas Gwiltiau’n dathlu ugain mlynedd o arddangosfeydd cwiltiau yng Nghanolbarth Cymru.

 

Cwilt blodau appliqué

Ref: 2002-15-B

2002-15-B Appliqué flowers quilt
2002-15-B Appliqué flowers quilt

Cwilt clytwaith naw-clwt coch a gwyn yw hwn, gyda sgwariau wedi’u haddurno â blodau appliqué. Ellen Ann Hamer (1896 – 1987) a’i wnaeth, cyn iddi briodi, mae'n debyg pan roedd yn byw gyda'i modryb a'i hewythr yn Beulah, Llidiartywaen, ger Llanidloes. Seiliwyd y dyluniad o flodau coch a gwyn appliqué ar gwilt cynharach, hefyd yn y casgliad (2002-15-A), a wnaed gan ei mam Mary Evans hefyd o Beulah.

Mae’r clytwaith naw-clwt mawr hwn (2120 x 1850mm) yn drawiadol iawn, gyda’i flodau syml â phedwar petal mewn twil cotwm coch a gwyn bob yn ail. Mae gan bob un o’r blodau ganol â siâp seren. Mae’r gwaith appliqué wedi’i wneud â llaw, gyda chwiltio ag edau pinc wedi’i wneud â llaw ac appliqué gwrthdro ar y corneli.

Roedd pobl yn adnabod y gwiltwraig, Ellen Hamer, fel rhywun a oedd “bob amser yn brysur, yn gwneud rhywbeth, yn troi coleri, ond byth ar ddydd Sul.” Byddai’n gwneud llawer o grefftwaith, gan gynnwys gwnïo, crosio a gwau. Ffermwr oedd John Hamer, gŵr Ellen, yng Nglynbrochan ger Llanidloes, lle buon nhw’n byw am drigain mlynedd, a hwythau wedi cael pedwar o blant i gyd.

Mae’r cwilt hwn wedi’i arddangos sawl tro, gan gynnwys yn sioe haf y Gymdeithas Gwiltiau “Y Cwiltiau Cochion” yn 2005, ac yn yr Ŵyl Gwiltiau yn yr NEC yn Birmingham ym mis Awst 2008.

Wrlid diemwntau appliqué

Ref: 2009-1-D

2009-1-D appliqué diamonds coverlet
2009-1-D appliqué diamonds coverlet

Gwnaeth teulu o Swydd Gaer rodd o’r cwrlid appliqué trawiadol hwn, ynghyd â nifer o eitemau tecstil eraill. Ers hynny, mae’r Gymdeithas Gwiltiau wedi prynu cwilt brethyn cyfan oddi wrth yr un teulu, ac mae hwn i’w weld yma.

Mae’r cwrlid (2045 x 1883mm) coch, gwyn a glas wedi’i wneud o gotwm, â gwehyddiad plaen yn bennaf, gyda stribyn o dwil gwyn yn y pen a’r gwaelod Mae technegau appliqué a chlytwaith i’w gweld arno. Mae trionglau coch a stribedi glas wedi’u gwnïo ar sgwariau gwyn ar hyd un ymyl ac yna wedi’u fflipio drosodd. Mae’r ymylon eraill wedi’u troi o dan a’u gwnïo i’w lle â phwythau slip.

Nid oes unrhyw wadin, ond mae’r cwrlid wedi’i gwiltio â llaw mewn edau wen yn y ffos i ddal y ddwy ochr â’i gilydd. Mae’r ymylon wedi’u bytio. Mae’n amlwg ei fod wedi bod yn annwyl i rywun, a’i fod wedi’i ddefnyddio’n helaeth, gan fod ei olchi drosodd a throsodd wedi achosi i’r ffabrigau golli eu lliw.

Cwrlid clytwaith a blodau appliqué

Ref: 2009-1-F

2009-1-F appliqué flowers and patchwork coverlet
2009-1-F appliqué flowers and patchwork coverlet

Un yw hwn o gyfres o gwrlidau y gwnaeth teulu o Swydd Gaer rodd ohonyn nhw yn 2009. Ers hynny, mae’r Gymdeithas Gwiltiau wedi prynu cwilt brethyn cyfan oddi wrth yr un teulu, ac mae hwn i’w weld yma.

Torch flodeuog appliqué (patrwm geometrig coch a du gyda phatrwm blodeuog llwydfelyn a choch) yw’r medaliwn sydd yng nghanol y cwrlid mawr hwn (2125 x 2065mm), â chlytwaith o amgylch yr ymylon. Mae’r cwrlid cyfan wedi’i wnïo â llaw.

Ffabrigau crysau a gwisgoedd cotwm mewn lliwiau amrywiol o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif yw’r ffabrigau sydd wedi’u defnyddio. Llinellau gwyn o gwiltio syml â llaw sy’n dal dwy ochr y cwrlid â’i gilydd. Mae’r cwrlid wedi’i rwymo â stribedi sydd wedi’u gwnïo ymlaen ac yna’u troi ar yn ôl gyda chorneli wedi’u meitro.

Cwilt Plu’r Cynhaeaf

Ref: 2002-26 

2002-26 anja townrow's quilt
2002-26 anja townrow's quilt detail

Cwilt cyfoes a wnaed gan Anja Townrow yn 2001 yw hwn ac fe wnaeth rodd ohono i’r Gymdeithas Gwiltiau ym mis Mehefin 2002.  Mae wedi’i seilio ar ddyluniad cwiltio o un o’i llyfrau ei hun, Dutch Flower Pot Quilts a gyhoeddwyd yn 2001. Y blodau ar silffoedd ffenestr ei mam yn yr Iseldiroedd a ysbrydolodd pob dyluniad yn ei llyfr. Ffabrig Henry Alexander o’r enw Plu’r Cynhaeaf ysbrydolodd enw’r cwilt penodol hwn a’r lliwiau a ddefnyddiwyd. Mae wedi’i wneud trwy ddefnyddio cyfuniad o bwytho darnau sylfaen, pwytho darnau cromlin ac appliqué. 

 

Mae’r cwilt hwn wedi’i gwiltio â pheiriant gydag amrywiaeth o edeifion metalig ac mae gleiniau bychain yn ei addurno ymhellach ar gyfer llygaid yr adar.  Mae yna wadin cotwm a ffabrig blodeuog gwyrdd yw’r cefn.  1790 x 1793mm.

Cwilt Ysgol Cedewain

Ref: 2016-5 

2016-5

Gwnaed hwn yn 2010 gan Janet Ball o Raeadr Gwy a chafodd ei gyflwyno i Peter Tudor ar ei ymddeoliad fel Prifathro Ysgol Cedewain yn y Drenewydd, a gwnaeth ef rodd o’r cwilt i ni i’w gadw’n ddiogel yn 2016.  Mae wedi’i wneud o ffabrigau polycotwm a chotwm ac mae ganddo banel llorweddol yn y canol sydd â thair rhan.  Yn y canol, mae yna banel wedi’i addurno â dail a mes appliqué gyda’r geiriau ‘great oaks from little acorns grow’ wedi’u pwytho â llaw mewn pwyth conyn.  Mae’r panel ar y naill ochr a’r llall yn dangos plant mewn golygfeydd yn yr awyr agored – un mewn coedwig, y llall wrth ymyl llyn a mynyddoedd yn y pellter – mewn appliqué. 

 

Mae gan bob panel forder coch ac o dan y paneli mae’r geiriau ‘the best and most beautiful things in the world cannot be seen or even touched, they must be felt within the heart.’  Uwchben ac o dan y panel yn y canol ar gefndir gwyn mae yna lofnodion a rhai negeseuon wedi’u hysgrifennu mewn pin ffelt.  Mae gan y cwilt cyfan forder o ffabrig du gyda sêr aur arno.  Mae yna wadin o bolyester tenau ac mae gan y cefn banel yn y canol o ffabrig hufen plaen ac uwchben ac oddi tano mae yna ddarnau o ffabrig gwyn â phatrwm gwasgaredig mewn coch a glas.  Mae’r pwythau appliqué sydd yng nghanol yr ochr ar i fyny’n mynd trwy bob un o’r tair haen i ddal y cwilt â’i gilydd ac mae yna hefyd ychydig o bwytho igam-ogam o gwmpas rhai o’r llofnodion sy’n mynd trwy’r haenau i gyd.  Ar y cefn mae yna label sy’n dweud ‘A big thank you to headmaster Peter Tudor from all at Ysgol Cedewain 2010. Made by Janet Ball, Rhayader, Wales.’  1690mm x 1680mm.

Appliqué Basged o Flodau

Ref: 2017-9 

Flower Basket Applique 2017-9

Gwnaed y cwilt trawiadol hwn mae’n debyg rywbryd yn ystod yr 1920au, ac fe brynodd y rhoddwr ef am bris bargen trwy eBay.  Mae wedi’i wneud o gotwm ysgafn, a’r ochr ar i fyny yn cynnwys dyluniadau o bedwar basged o flodau mewn gwyrdd, melyn a phinc wedi’u gosod fel appliqué ar gefndir hufen.  Mae’n bosibl mai capoc yw’r wadin a darn tenau iawn o gotwm hufen yw’r cefn.  Cwiltiwyd yr haenau â’i gilydd â llaw ac mae’r pwytho o safon uchel mewn edau gotwm lliw hufen.  Mae cwiltio amlinellol o amgylch y basgedi blodau yn y lle cyntaf ac yna mae gweddill y cefndir wedi’i gwiltio gan ddefnyddio dyluniad delltwaith.  Enghraifft dda o appliqué wedi’i wneud â llaw. 2000mm x 1770mm

Cwilt Appliqué Cymreig Anghyffredin

Ref: 2020-1 

2020-1

Prynodd y Gymdeithas Gwiltiau’r enghraifft anghyffredin yma o gwilt appliqué Cymreig yn 2020.  Cafodd ei wneud o gwmpas 1890 yng Ngheredigion. Defnyddir appliqué mewn cwiltiau Cymreig fel ychwanegiad yn bennaf - mae cwiltiau appliqué cyfan yn beth anghyffredin iawn.

 

Mae’r ochr ar i fyny wedi’i wneud o ffabrigau cotwm gyda chefndir gwyn wedi’i wneud o flociau, ac mae patrwm tiwlipau o flodau coch ac oren gyda choesynnau a dail gwyrdd wedi’u gosod mewn appliqué arno. Mae’r cefn wedi’i wneud o ffabrig cotwm gwyn plaen.  Mae’r cwiltio hynod gain â llaw yn yr arddull Cymreig traddodiadol ac mae ganddo fedaliwn crwn gyda throellau, blodau bychain a llinellau tonnog.  Er gwaethaf ei oedran, mae’r cwilt hwn mewn cyflwr ardderchog ac mae’r lliwiau dal yn glir a llachar.

2180mm x 2160mm

Cwilt Sidanau sigaréts

Ref: 2020- 2 

2020-2

Cwilt ag appliqué o sidanau sigaréts yw hwn, ar thema flodeuog.  Gwnaed y cefndir appliqué o reion glas lliw ysgorpionllys ag amrywiaeth o sidanau sigaréts bach, rhai ohonyn nhw’n ffurfio medaliwn canolog ac eraill yn ffurfio border. Mae yna rai eraill hefyd wedi’u gwasgaru ar hap.  Mae gan y cwilt rwymiad o las tywyllach ac fe gwiltiwyd y cwilt â pheiriant mewn patrwm diemwnt. 

Rhoddwyd sidanau sigaréts yn rhad ac am ddim gyntaf rhwng 1905 a 1917 gan wneuthurwyr tybaco yn UDA, ond hefyd gan ugain o wneuthurwyr tybaco Prydeinig ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn canol y 1920au, roedd eu defnydd wedi diflannu, ar wahân i adfywiad bychan ym 1933-4. Roedd y rhai llai yn dod mewn pacedi o sigaréts a gellid cael y rhai mwy trwy gasglu tocynnau.  Byddai’r gwneuthurwyr tybaco’n eu defnyddio nhw i berswadio menywod i ysmygu neu i berswadio menywod i annog dynion i fod yn deyrngar i frand.

Cwilt Olwyn Binnau

Ref: 2022-11 

2022-11_edited

Gwnaed y cwilt hwn yn ôl pob tebyg yn ystod y 1950au, o gotwm a satîn cotwm, sef ffabrigau gwneud dillad yn bennaf.   Mae pedwar bloc ar hugain mewn 6 rhes o bedwar.  Mae gan bob bloc olwyn binnau appliqué wedi’i wneud â llaw ar gefndir gwyn. Mae’r olwynion pinnau mewn amrywiaeth o liwiau ac mewn cymysgedd o ffabrigau plaen a phatrymog. 

 

Mae’r blociau, a’r fframio pinc sy’n eu huno, wedi’u huno â pheiriant.  Mae yna ychydig o gwiltio cysgodol elfennol wedi’i bwytho â llaw o gwmpas pob olwyn binnau a phatrwm igam-ogam ar draws y fframio.  Mae’r cefn a’r rhwymiad wedi’u pwytho â llaw yn yr un ffabrig â’r deunydd fframio. Cotwm gwastraff yw’r wadin yn ôl pob tebyg – mae’n denau ac yn lympiau i gyd.   1560mm x 1860mm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Y Gymdeithas Gwiltau neu Canolfan Celfyddydau Minerva, cysylltwch â ni yma

quilt association logo white
Visit_Wales

© The Quilt Association 2024

Website designed & built by

RHDesign

The Minerva Arts Centre

High Street, Llanidloes

SY18 6BY 01686 413467

Elusen Gofrestredig No. 1080218  | Wedi'i Gofrestru yng Nghymru No. 3284386

TELERAU A PHOLISÏAU

RHDESIGN ROUNDEL
bottom of page